Darluniad o Frwydr Mendigorría ar 16 Gorffennaf 1835. | |
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel cartref |
---|---|
Dyddiad | 29 Medi 1833 |
Achos | Pragmatic sanction of 1830 |
Rhan o | Carlist Wars |
Dechreuwyd | 1833 |
Daeth i ben | 1839 |
Lleoliad | Sbaen |
Yn cynnwys | Second Battle of Arlaban |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhyfel cartref dros olyniaeth y goron Sbaenaidd oedd Rhyfel Cyntaf y Carliaid (Sbaeneg: la primera guerra carlista) a barodd o 1833 i 1840. Sbardunwyd y gwrthdaro wedi marwolaeth y Brenin Fernando VII ac esgyniad ei ferch Isabella II i'r orsedd. Gwrthwynebwyd hynny gan y Carliaid a gefnogodd hawl y Don Carlos, brawd iau Fernando, i flaenoriaethu merched Fernando yn unol â'r hen gyfraith Salig. Cychwynnodd y Carliaid ryfel yn erbyn llywodraeth ryddfrydol y Rhaglyw Frenhines Maria Christina, mam Isabella, a'i dilynwyr a elwid liberales, cristinos, neu isabelinos. Mae'n bosib taw hwn oedd rhyfel cartref mwyaf gwaedlyd yr oes.[1]
Rhennid prif luoedd y Carliaid yn dair byddin ar wahân a leolwyd yn y rhanbarthau lle'r oedd cefnogaeth dros achos Don Carlos ar ei chryfaf: y Gogledd (Gwlad y Basg), Maestrazgo, a Chatalwnia.[2] Brwydrodd hefyd sawl llu herwfilwrol o Garliaid yn y mynyddoedd, mewn ardaloedd pelled â La Mancha ac Andalucía, a ystyriwyd yn bandoleros (banditiaid) gan lywodraeth y rhaglyw.[3][4] Derbyniodd y rhaglywiaeth gefnogaeth o Bortiwgal, Ffrainc, a'r Deyrnas Unedig.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search